David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

10 Gorffennaf 2015

 

Annwyl Gadeirydd,

 

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 

Yn dilyn cyhoeddi eich Adroddiad Cam 1 ar y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), roeddwn eisiau mynegi fy nghefnogaeth yn ffurfiol i'r Adroddiad a'i argymhellion. 

Rwy'n falch fod y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i'm tystiolaeth i'r Pwyllgor, a'i fod wedi ymateb i'r pryderon a fynegais.  Mae nifer o argymhellion yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â’r meysydd sy'n 'gyfleoedd a gollwyd' yn fy marn i, ac maent hefyd yn bwrw ymlaen â rhai o'r Anghenion Gweithredu sydd yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal, Lle i'w Alw'n Gartref?, a luniais gyda'r bwriad y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn bwrw ymlaen â nhw.  

Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd wedi anfon briffiad i holl Aelodau'r Cynulliad i fynegi fy nghefnogaeth lwyr i argymhellion yr Adroddiad ac i argymell eu bod yn dod i rym. 

Yn gywir,

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru